Dick Penny

Gweinyddwr celfyddydau, ymgynghorydd a chynhyrchydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 August 2022

Dick Penny headshotMae Dick yn gyn gyn-Gyfarwyddwr Watershed ac ar hyn o bryd yn aelod o Bartneriaeth Menter Leol (LEP) Gorllewin Lloegr. Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Gweithredol Bristol Old Vic ac wedi helpu i sefydlu sawl menter datblygu cydweithredol. Mae Dick wedi bod yn fentor ac yn arweinydd i Caerdydd Creadigol o'r dechrau. Mae ei gyngor, profiad, ffordd o gwestiynu/archwilio ac anogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.

Ysgrifenna:

Yn briodol, mae diwydiannau creadigol yn cael eu cydnabod a'u hyrwyddo am gryfderau a photensial o dwf economaidd i adeiladu cymunedol.

Croesewir y consensws cynyddol bod y sector creadigol yn hanfodol ar gyfer cymdeithas lewyrchus ac iach, ond ni ddeellir cystal y fecaneg y gellir ei defnyddio i helpu diwydiannau creadigol i ffynnu.

Yn aml, nid yw dynameg y bobl a'r cwmnïau sy'n ffurfio'r diwydiannau creadigol yn cydymffurfio â'r prosesau sefydledig o ddatblygu 'diwydiannol' sy'n sail i benderfyniadau'r llywodraeth, bancwyr a buddsoddwyr. Nid yw natur ystwyth, newidiol, sy'n canolbwyntio ar brosiectau llawer o sefydliadau creadigol yn cyd-fynd â rhaglenni buddsoddi safonol ac mae hyn yn cael ei gymhlethu gan y gyfran uchel iawn o ficro-gwmnïau a thalent llawrydd. Yn aml, mae'n edrych yn rhy gymhleth i rywun o'r tu allan ac mae pryderon mwy amlwg yn nirywiad diwydiannau mwy confensiynol.

Mae clystyrau yn ffenomen ddiwydiannol sefydledig ond dim ond yn ddiweddar maent yn dod i amlygrwydd yn strategaethau datblygu'r diwydiannau creadigol. Yma hefyd mae rhwystr cymhlethdod gan fod gan glystyrau creadigol ddimensiynau a nodweddion gwahanol, gyda llif syniadau ac ysbrydoliaeth yn disodli cadwyni cyflenwi deunyddiau mwy confensiynol. Rhoddodd adolygiad Llywodraeth y DU 2017 o ddiwydiannau creadigol dan arweiniad Syr Peter Bazalgette glystyrau yn greiddiol ac yn ganolog i strategaeth ddatblygu, gan gydnabod bod clystyrau creadigol yn anarferol o benodol i le. Arweiniodd yr adolygiad hwn at Fargen Sector Diwydiannau Creadigol y Strategaeth Ddiwydiannol. Hyrwyddodd yr AHRC fuddsoddiad clwstwr fel gweithred allweddol gyda'r canlyniad bod yr AHRC wedi creu Rhaglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol a bod Clwstwr yn un o'r clystyrau a ariennir.

Mae hyn yn dda ond mae'r naratif byr hwn yn hepgor rôl hanfodol Caerdydd Creadigol yn dod â'r consortiwm wedi'i seilio ar le ynghyd, a arweiniodd at gynnig llwyddiannus Clwstwr. Mae cysylltedd y clwstwr yn cofnodi ac yn dangos gallu a galluogrwydd, sy'n adeiladu ymdeimlad o raddfa ac sy’n arwain at hyder, proffil a safle cystadleuol uwch. Heb y galluedd a geir o gydlynu mewn rhwydwaith, mae bron yn amhosibl i glystyrau creadigol ddod yn weladwy a denu'r ddawn a buddsoddiad amrywiol sydd mor hanfodol i dwf a chynhwysiant cynaliadwy.

Mae'r weledigaeth a'r ymrwymiad i sefydlu Caerdydd Creadigol bum mlynedd yn ôl eisoes wedi dangos potensial ac amrywiaeth diwydiannau creadigol Cymru pan fo'r dull gweithredu yn seiliedig yn fwy ar ecosystemau na diwydiannau – erbyn hyn, yr her yw cynnal rôl cefnogaeth clwstwr a chydlynu rhwydwaith dros y tymor hir i ymgorffori cyd-fuddiant lleol, cael pawb i anelu’n uwch, a datblygu marchnadoedd cartref a rhyngwladol.

Crowd at festival with purple lights

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event