Hasan Bakhshi

Cyfarwyddwr Canolfan Polisi a Thystiolaeth y Diwydiannau Creadigol

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 August 2022

Hasan Bahkshi headshotHasan yw Cyfarwyddwr Canolfan Polisi a Thystiolaeth y Diwydiannau Creadigol. Mae'n arwain y ganolfan, consortiwm ymchwil o ddeg prifysgol a ariennir gan yr AHRC dan arweiniad Nesta, sy'n gyfrifol am wella'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisïau i gefnogi diwydiannau creadigol y DU. Cyn Nesta, bu Hasan yn gweithio fel Cyfarwyddwr Gweithredol yn Lehman Brothers, fel Dirprwy Brif Economegydd yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ac fel economegydd ym Manc Lloegr. O ddyddiau cyntaf Caerdydd Creadigol, mae wedi bod yn ysbrydoli ein tîm gyda'i wybodaeth am ddata a sut i’w gyrchu a’i ddadansoddi.

Ysgrifenna:

Ar 8 Rhagfyr 2016, rhoddais y brif araith yn symposiwm Caerdydd: Prifddinas Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Pwnc fy araith oedd sut mae dosbarthu a mesur yn helpu i ddilysu'r economi greadigol fel sbardun datblygiad economaidd, neu, mewn geiriau eraill, yn helpu i roi creadigrwydd ar y map.

Mae Caerdydd Creadigol yn sicr wedi helpu i roi creadigrwydd ar y map. Drwy gynnull rhwydweithiau, cynnal digwyddiadau, a hyrwyddo swyddi a chyfleoedd busnes eraill, yn ogystal â choladu data a chynnal ymchwil, mae wedi dod yn adnodd yn gyflym ar gyfer yr holl dalent greadigol sy'n gweithio ar draws economi De Cymru.

Ers hynny, mae Caerdydd Creadigol yn sicr wedi helpu i roi creadigrwydd ar y map. Drwy gynnull rhwydweithiau, cynnal digwyddiadau, a hyrwyddo swyddi a chyfleoedd busnes eraill, yn ogystal â choladu data a chynnal ymchwil, mae wedi dod yn adnodd yn gyflym ar gyfer yr holl dalent greadigol sy'n gweithio ar draws economi De Cymru. Mae hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu Clwstwr, canolfan ymchwil a datblygu ar gyfer diwydiannau’r cyfryngau creadigol a ariennir trwy Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol y DU, sy'n dwyn ynghyd Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yn fyr, mae Caerdydd Creadigol wedi dod yn rhan o'r ecosystem a elwir yn economi greadigol De Cymru yn gyflym iawn. Un sydd, er enghraifft, yn egluro pam mae Caerdydd yn cael ei nodi fel clwstwr Heriwr Creadigol ym mapiau Cenedl Greadigol Nesta: clystyrau sydd wedi profi twf cyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac sydd ar y trywydd iawn i ddod yn nodau canolog o fewn daearyddiaeth greadigol y DU.

Ond mae'r ffyrdd arferol o fesur cyfraniad clystyrau – o’r math y mae llywodraethau fel arfer yn ei ddefnyddio i werthuso eu buddsoddiadau – yn defnyddio ystadegau swyddogol sy'n canolbwyntio ar unedau busnes ac aelwydydd. Anaml y bydd arolygon a ffynonellau data gweinyddol, os o gwbl, yn mesur y perthnasoedd rhwng asiantau sy'n sail i ecosystemau. Mae dangosyddion amgen sy'n edrych ar natur cydweithrediadau rhwng prifysgolion yng Nghaerdydd a busnesau creadigol, er enghraifft, yn dangos bod mwyafrif helaeth y cydweithrediadau hynny gyda busnesau sydd wedi'u lleoli ledled y DU, nid dim ond y rhai yng Nghaerdydd. Ac maen nhw'n dangos bod y cydweithrediadau ymchwil hyn gyda set lawer mwy amrywiol o is-sectorau nag sy'n wir ar gyfer prifysgolion mewn clystyrau Heriwr Creadigol eraill fel Caeredin, Bryste neu Sheffield.

Mae'n bryd inni werthuso perfformiad y clwstwr creadigol o ran iechyd y perthnasoedd sy'n sail iddo, nid yn unig yn ôl nifer a thwf busnesau, er bod y rhain yn bwysig.

Creative Cardiff AMDANI event

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event