Yr Athro Kevin Morgan

Athro Llywodraethu a Datblygu a Deon Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 August 2022

Prof Kevin Morgan headshotMae diddordebau ymchwil Kevin yn cylchdroi o amgylch ystod eang o feysydd fel arloesi, datblygu gofodol, cynaliadwyedd bwyd, datganoli, llywodraethu, yr economi sylfaenol, a menter ddinesig a chymdeithasol. Mae wedi addysgu llawer i dîm Caerdydd Creadigol am ddaearyddiaeth economaidd a chlystyrau arloesi, gan rannu ysbrydoliaeth o enghreifftiau yn y DU a ledled y byd.

Ysgrifenna:

Ymhell o fod yn gynnyrch yr entrepreneur unig ac arwrol, mae arloesi yn ymdrech gymdeithasol ar y cyd, yn gamp tîm.

Un o lwyddiannau mawr Caerdydd Creadigol yw ei fod wedi cydnabod a gweithredu ar y mewnwelediad hwn o'r dechrau. Dyna pam mae wedi ceisio creu ymdeimlad o dynged a rennir ymhlith y nifer o fentrau bach sy'n rhan o'r sector creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a pham mae wedi sylweddoli nad y brif broblem i gwmni yw bod yn fach ond bod yn unig – hynny yw, peidio bod yn rhan o glwstwr lle mae mentrau bach yn cydweithredu i ddod o hyd i atebion ar y cyd i broblemau cyffredin.

Nid yw clystyrau llwyddiannus byth yn aros yn eu hunfan. Maent yn esblygu'n gyson trwy ffyrdd newydd o weithio, lledaenu a rhannu baich arloesi. Dyna pam mai un o'r heriau am y pum mlynedd nesaf yw i Caerdydd Creadigol hadu a chataleiddio math o arweinyddiaeth clwstwr sydd hyd yn oed yn fwy cydweithredol a hyd yn oed yn fwy gwasgaredig fel y gall gwahanol bobl ar wahanol adegau gymryd yr awenau wrth sbarduno syniadau a phrosiectau.

Mae'r diwydiannau creadigol bellach yn sector blaenoriaeth ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a dros y pum mlynedd nesaf rwy'n gobeithio ac yn credu y gall Caerdydd Creadigol helpu'r sector i gyflawni ei botensial – nid mewn termau economaidd yn unig, ond hefyd fel ffynhonnell o ysbrydoliaeth i ddangos bod diwylliant, iechyd a llesiant yn wir nodweddion dinas-ranbarth llwyddiannus.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event