Rhiannon White

Cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Theatr Common Wealth

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 August 2022

Rhiannon WhiteMae Rhiannon yn gyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Common Wealth – cwmni theatr wleidyddol safle-benodol. Mae hi wedi cydweithio a gwneud gwaith gyda National Theatre Wales, y Theatr Genedlaethol (DU), Canolfan Gelfyddydau Chapter, Sherman Cymru, Canolfan Southbank a Circus 2 Palestine.

Ysgrifenna:

Gall celf ein helpu i weld ein hunain, gan ddeall pwy ydym ni ac o le rydym yn dod. Gall ein helpu i gydnabod y grym sydd gennym; gall roi galluedd inni. Rwy'n credu yng ngrym adrodd straeon, o ddeall pwy ydych chi ac o ble rydych chi'n dod. Mae'n rhoi nerth i chi. Nid yw wastad wedi teimlo felly i mi ond, pan fyddwch chi'n dechrau ymarfer, mae'n dechrau gwneud synnwyr. Ni all unrhyw un herio hynny.

Rwy'n fenyw dosbarth gweithiol o Laneirwg. Dywedwyd wrthyf bob amser na fydd fy naratif fyth yn gyfystyr â dim, ddim digon da. Sefydlais Common Wealth fel ymateb i'r naratif hwnnw. Nid yw'n hawdd bod yn ddosbarth gweithiol a gweithio mewn diwydiant elitaidd. Rydych yn ymladd eich brwydrau mewnol eich hun yn ogystal â'r rhai allanol. Mae'n rhaid i chi weithio'n galed i wthio drwodd.

Rhiannon White on stage at Porter's Cardiff for Show and Tell 2018

Dyna pam mae sefydliadau fel Caerdydd Creadigol yn bwysig: maent yn cysylltu ac yn cynnig platfform ar-lein sy'n ein hagor ni fel dinas. Mae rhwydweithiau'n bwysig, yn feirniadol, ac yn arwain at gydweithrediadau hudol. Mae'n creu gofod lle nad oes ots os ydych chi'n dod o Laneirwg neu Gyncoed – mae gennych fynediad. Clywais am Caerdydd Creadigol gyntaf tua phum mlynedd yn ôl – cefais wahoddiad i siarad ar banel.

Gwnaethant roi lle i mi, ar y llwyfan i ddweud fy stori – roedd hi'n teimlo'n anghyffredin i hynny ddigwydd, roeddent yn ymddiried ynof. Mae cyfleoedd fel yna yn eich newid chi, yn rhoi hyder i chi, ac yn eich helpu chi i ddeall bod gennym ni i gyd stori i'w hadrodd, rhywbeth i'w gyfrannu, ac felly pam na ddylai rhywun o Laneirwg fod ar y llwyfan, yn siarad, yn dathlu'r hyn maen nhw’n ei wneud.

Mae Caerdydd Creadigol yn gonglfaen; maent yn cynnig cefnogaeth, yn hyrwyddo, yn cysylltu, ac wastad ar gael am baned a sgwrs. Mae hynny’n bwysig. Dyna sut mae'r pethau da yn cychwyn.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event