Richie Turner

Stiwdio Sefydlu, Prifysgol De Cymru

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 August 2022

Richie Turner headshotMae Richie yn rhedeg gwasanaethau deori ac entrepreneuriaeth i raddedigion ar gyfer Prifysgol De Cymru ac yn rheoli'r Stiwdio Sefydlu ar ei champws yng Nghaerdydd, lle mae'n cefnogi cwmnïau creadigol a chwmnïau digidol newydd yn bennaf. Mae hefyd yn darlithio ar radd MA Rheoli’r Celfyddydau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yn ymgynghorydd ym meysydd y celfyddydau, arloesedd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae’n gweithio i Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ar hyn o bryd. Mae Richie yn aelod anweithredol o fwrdd Cymru Greadigol, yn ymddiriedolwr Casnewydd Fyw, gan gadeirio Pwyllgor Celfyddydau’r fenter, ac yn aelod o fwrdd Gentle Radical (sefydliad diwylliant a newid cymdeithasol wedi'i leoli yng Nghaerdydd). Mae hefyd yn aelod agoriadol o Grŵp Cynghori Creadigol Caerdydd, a sefydlwyd yn 2020 i lywio ein gwaith a'n cynlluniau, ein herio, tanio ein huchelgeisiau a'n dyheadau, a helpu i ledaenu'r gair am economi greadigol Caerdydd, gartref ac ymhellach i ffwrdd.

Ysgrifenna Richie:

Yn fy rôl yn cefnogi entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol De Cymru, does ond angen i mi edrych ar greadigrwydd, angerdd ac arloesedd syniadau busnes newydd yr wyf wedi gallu eu cefnogi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a'r busnesau newydd hynny sydd newydd ddechrau ar eu teithiau, i wybod y gallwn gyflawni hyd yn oed yn fwy nag a wnaethom cyn yr argyfwng COVID-19.

Er enghraifft, aelod mwyaf newydd Stiwdio Sefydlu yw Llusern Scientific, sydd wedi datblygu prawf pwynt gofal COVID-19 cyflym a fforddiadwy a all gynhyrchu canlyniadau o fewn 30 munud. Gallai'r arloesedd hwn olygu bod pobl yn cael eu profi cyn iddynt gyrraedd eu gwaith neu'r coleg a bod y canlyniadau'n hysbys erbyn iddynt eistedd ac aros dros goffi bore.

Ond mae'n rhaid i ni gofio bod 2020 hefyd yn flwyddyn anhygoel o anodd i'r rhan fwyaf o'n gweithwyr llawrydd a busnesau newydd creadigol yn Ne Cymru. Collodd aelodau o'r Stiwdio Sefydlu eu cwsmeriaid bron yn syth pan ddigwyddodd y cyfyngiadau symud cyntaf. Ac eto mae eu gallu i beidio byth â rhoi’r gorau iddi trwy ddatblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd yn gyson, a oedd yn berthnasol i gymdeithas COVID-19 newydd, hefyd wedi fy ysbrydoli trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r pandemig hefyd wedi bod yn gatalydd i Brifysgol De Cymru sefydlu ei Ysgol Haf Entrepreneuriaeth gyntaf (gyda dros 50 o gyfranogwyr graddedig) a'i chronfa busnesau newydd bwrpasol gyntaf i raddedigion, a oedd yn galluogi pedwar cwmni newydd i ddechrau masnachu. Mewn sefyllfa economaidd lle mae dod o hyd i swydd wedi dod yn sylweddol anoddach, mae llawer o bobl wedi sylweddoli y gallant ddibynnu ar eu creadigrwydd eu hunain a gwneud eu gwaith eu hunain.

Mae adfyd yn arwain at lefelau uwch o arloesi a chreadigrwydd, fel y gwelsom hefyd o'r ymateb yn fyd-eang ac ar draws Cymru i'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys a'r ymgyrch 'We Shall Not Be Removed'. Mae angen i sectorau’r celfyddydau a diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn benodol, arwain yr ymateb i fygythiadau lluosog COVID-19 (anghydraddoldebau iechyd, effeithiau ar iechyd meddwl, gostyngiadau mewn datblygiad economaidd a chymdeithasol) ynghyd â rhaniadau cymdeithasol cynyddol yn sgil diffyg amrywiaeth a chydraddoldeb yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd parhaus. Roedd yn galonogol i mi felly gefnogi prosiect Caerdydd Creadigol, Ein Caerdydd Creadigol, a gomisiynodd 14 o artistiaid a chynhyrchwyr creadigol lleol i adrodd straeon a oedd yn dangos yn glir yr ystod eang o dalent ac amrywiaeth sydd gan y ddinas i'w cynnig.

Os yw’r pandemig hwn wedi dangos un peth inni, mae wedi dangos bod gennym fwy yn gyffredin â’n gilydd na wnaethom sylweddoli. Bydd gan fentrau fel Caerdydd Creadigol rôl gynyddol bwysig wrth ddod â phobl ynysig a chymunedau sydd wedi’u gwahanu at ei gilydd, ledled y rhanbarth, i rannu profiadau a mynd i’r afael â’r bygythiadau hyn yn greadigol ac ar y cyd gyda phositifrwydd a hyder y bydd 2021 yn dod i ben yn llawer gwell nag y mae wedi cychwyn.

Guests at AMDANI reading the Creative Cardiff 202 calendar

< Previous article
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event