Neil Cocker

Entrepreneur a sylfaenydd Cardiff Start

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 August 2022

Neil Cocker headshotMae Neil yn entrepreneur, mentor busnesau newydd a chyn-weithiwr ym maes darganfod a datblygu artistiaid newydd yn y diwydiant cerddoriaeth. Sefydlodd y sefydliad Cardiff Start, sydd â'r nod o hyrwyddo a thyfu busnesau technoleg newydd yn y ddinas, cydsefydlodd gyfres TEDxCaerdydd, ac mae ar fyrddau Ffilm Cymru Wales a’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig. Mae'n rhwydweithiwr a chysylltydd heb ei ail ac mae bob amser wedi bod yn hael ac yn agored iawn gyda'i feddyliau ar adeiladu cymunedau ac ymgysylltu â'r gymuned greadigol.

Ysgrifenna Neil:

Dychmygwch eich bod chi'n byw mewn pentref bach yn y jyngl trwchus, heb unrhyw fodd o gyrraedd pentrefi eraill o'ch cwmpas. Mae'n rhaid i chi, fel blaenor pentref, ddewis rhwng gwario'r holl arian sydd ar gael yn adeiladu cyfleusterau yn eich pentref, yn darparu adloniant ac adnoddau i'ch pentrefwyr, neu’n adeiladu ffyrdd trwy'r jyngl rhyngoch chi a'r pentrefi eraill.

Efallai mai'r demtasiwn gychwynnol fyddai adeiladu sinema a meddygfa ar gyfer pentref sydd wedi'i ynysu oddi wrth weddill y byd. Ond siawns os gellir dileu achos yr arwahaniad, mae hynny'n well: datrys y broblem yn hytrach na thynnu sylw oddi arni.

Yn aml iawn, wrth adeiladu cymunedau, mae'n hawdd mynd ati i greu prosiectau, digwyddiadau a ffynonellau cyllido sy'n diwallu angen brys ond nad ydynt o reidrwydd yn mynd i'r afael â mater ehangach, tymor hir a phwysicach, sef cyfleoedd a sut i'w hwyluso.

Dyma pam, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyn defnyddio unrhyw fath o adnodd ar gyfer adeiladu cymunedau, mae fy mantra wedi dod yn 'adeiladu llwybrau, nid pethau'.

Gall 'pethau' fod yn hwyliog. Gall 'pethau' fod yn ddefnyddiol. Gall 'pethau' wneud iddo edrych fel eich bod chi'n gwneud rhywbeth o werth.

Ond daw'r gwir werth pan fyddwch chi'n clirio llwybr i rywun, yn ei bwyntio i'r cyfeiriad cywir, neu hyd yn oed yn cario ei fagiau i'r stepen drws. Ni allwch reoli'r hyn sy'n digwydd pan gyrhaedda yno, ond rydych wedi sicrhau nad yw’n cyrraedd wedi blino'n lân ac yn ddigalon.

Rwyf wedi bod wrth wraidd cymuned busnesau technoleg newydd Caerdydd ers blynyddoedd a, chyn hynny, ei gymuned greadigol trwy sefydlu digwyddiadau fel TEDxCaerdydd ac Ignite Cardiff. Ond nid y digwyddiadau hyn oedd y pwynt gorffen eu hunain. Roeddent yn ddull ar gyfer dod â phawb ynghyd, i drafod, ffurfio perthnasoedd, a magu partneriaethau newydd. Dyma sydd wastad wedi creu argraff arnaf am Caerdydd Creadigol. Fel tîm maent yn deall mai ansawdd y cysylltiadau (y llwybrau) sy'n cyfrif. Nid ydynt yn ticio blychau yn unig.

Gyda digonedd o dechnoleg ar flaenau ein bysedd, mae'n hawdd creu rhywbeth gan ei fod yn syml i'w wneud. Ond rydym yn aml yn anwybyddu'r cwestiwn pwysig o sut mae'n gwasanaethu'r gymuned ehangach. Fel adeiladwyr cymunedau, dylem oll fod yn defnyddio technoleg i wella ein bywydau, a bywydau ein cymuned, ond gadewch i ni sicrhau ein bod yn ei defnyddio i adeiladu llwybrau, nid 'pethau'.

Creative Cardiff Show and Tell event at Porter's

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event