Pum Mlynedd yn Ddiweddarach

Dathlodd Caerdydd Creadigol ei benblwydd yn bump oed ym mis Hydref 2020 mewn amseroedd anodd, digynsail. I nodi hyn, rydym wedi casglu barn ar ein gwaith gan rai o’r rhai sydd wedi bod yn bresennol trwy gydol y daith bum mlynedd hon ac sy’n gallu cynnig eu mewnwelediadau ar gyfer y dyfodol.

Five Years On front cover CY
Ein nod yw arddangos ystod eang o leisiau: sefydlwyr Caerdydd Creadigol, ei bartneriaid, a’r rhai sy’n cyflawni ei weledigaeth.

Gwleidyddion, academyddion a rhanddeiliaid o ystod eang o ddisgyblaethau, perchnogion busnes, entrepreneuriaid cymdeithasol ac arweinwyr diwylliannol: o bob rhan o’r DU ac o bob cwr o’r byd.

Os hoffech gymryd camau dilynol ar unrhyw agwedd o’r hyn rydych chi’n ei ddarllen yma, rhowch wybod i ni.

Ewch ati i lawrlwytho’r cyhoeddiad neu ddewis cyfrannwr isod i ddarllen eu sylwadau: